2 Gorffennaf 2015
Sesiwn dystiolaeth: y Gymraeg
Annwyl Brif Weinidog
Rwy'n ysgrifennu atoch i'ch gwahodd i gyfarfod y Pwyllgor yn nhymor yr hydref i drafod eich cyfrifoldebau dros y Gymraeg. Yn benodol, hoffai’r Aelodau eich holi am Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Rydym yn rhagweld y bydd yr adroddiad wedi'i gyhoeddi erbyn sesiwn hon.
Byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddarparu papur cyn y cyfarfod yn nodi’r isod, yn ogystal â materion yn ymwneud ag Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2014-15:
· y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a gyflawnwyd hyd yma yn ystod blwyddyn gyntaf y strategaeth Bwrw Mlaen;
· y wybodaeth ddiweddaraf am roi Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011ar waith, gan gynnwys y broses o gyflwyno’r safonau;
· manylion am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â materion yn ymwneud â’r Gymraeg wrth roi adolygiad Donaldson ar waith.
Yn fwy cyffredinol, dylech wybod bod y Pwyllgor wedi cytuno i adolygu’r gwaith a gyflawnwyd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad er mwyn asesu ei effaith. Bydd y sesiwn dystiolaeth gyda chi’n gyfle i drafod y gwaith a gyflawnodd y Pwyllgor o ran y Gymraeg fel rhan o'r adolygiad etifeddiaeth hwn.
Bydd y Clerc yn cysylltu â'ch swyddfa ynghylch y trefniadau ar gyfer y cyfarfod, a byddwn yn ddiolchgar pa baech yn anfon eich papur erbyn dydd Gwener 31 Gorffennaf.
Yn gywir,
Christine Chapman AC / AM
Cadeirydd